Llun/photo: @AliceBriggs

Yr afon

Mae'r afon Rheidol yn rhedeg am bedair milltir ar bymtheg o darddiad Pumlumon ym Mynyddoedd Cambria, i'r môr yn Aberystwyth. Mae'n byrlymu i fyny trwy'r corsydd mawn ac yn mynd trwy'r ucheldiroedd dibobloged, heibio tomennau rwbel ac adfeilion mwyndoddi lle'r oedd miloedd o bobl yn byw yn ystod ffyniant mwyngloddio, o dan fferm wynt a thrwy'r argae trydan dŵr, gan dorri trwy ffridd garw a thir ffermio ffrwythlon. Mae llwybrau troed a phontydd yn ymuno â hi ac yn ei chroesi, yn pasio rhandiroedd a choetiroedd cymunedol, yn rhedeg wrth ochr y trên a'r gefnffordd, ac yn llifo allan i Fae Ceredigion trwy'r harbwr yn Aberystwyth.

Mae'r afon yn cysylltu'r cymunedau amrywiol y mae'n rhedeg drwyddynt, gwledig a threfol, ffermio a hamdden, llawer o gynefinoedd a mathau o dirwedd. Rydym yn bwriadu i'r prosiect adeiladu ar y cysylltiadau a'r gwahaniaethau hyn.


Beth ysbrydolodd y prosiect hwn?

Prin fu'r prosiectau diweddar yn y celfyddydau sy'n targedu ucheldiroedd y Cambria. Rydyn yn rwystredig gyda sut mae’r amgylchedd a'r economi yn cael ei llywodraethau tu hwnt o’n ardal lleol, gyda ymdrechion adfywio’r ardal yn seiliedig ar fiwrocratiaeth. Cyn effeithiau Covid-19, nododd Brexit fel bwynt o newid, gan fygwth y diwydiant ffermio defaid, diwylliant yr ucheldir a'r iaith Gymraeg, tra bod newid hinsawdd wedi gorfodi adolygiad o'n perthynas â natur.

Creodd Alice Briggs arddangosfa Defaid a symposiwm Tirweddau'r Dyfodol (Mai 2019) yn Amgueddfa Ceredigion a hwylusodd sgyrsiau anodd am y pynciau hyn ymhlith ystod eang o randdeiliaid. Wnaeth hyn arwain at ffurfio Cynefin, (cynghrair o ymarferwyr tir) ac Ymarfer y Bobl (gan ddefnyddio dull sy'n gallu symbylu rhannu a newid gwybodaeth yn sylweddol). Cafodd yr adroddiad a ddilynodd (Briggs 2020) ei bwydo mewn i adolygiad Rheoli Tir Llywodraeth Cymru.

Llun/photo: @AliceBriggs

The river

The Rheidol river runs nineteen miles from the source of Pumlimon in the Cambrian Mountains, to the sea at Aberystwyth. It bubbles up through the peat bogs and passes through the depopulated uplands, past spoil heaps and smelting ruins where thousands of people lived during mining booms, below a windfarm and through the hydroelectrical dam, cutting through rough ffridd and fertile farmland. It is joined and crossed by footpaths and bridges, passes allotments and community woodlands, runs alongside the train line and trunk road, and flows out into Cardigan Bay through the harbour at Aberystwyth.

The river links the diverse communities it runs through, rural and urban, farming and leisure, many habitats and landscape types. We intend for the project to build on these connections and differences.


What inspired this project?

There have been few recent projects in the arts that target the Cambrian uplands. We are frustrated with top-down governance of the environment and economy and a bureaucracy-heavy place-based regeneration effort. Before the impacts of Covid-19, Brexit marked a point of change, threatening the sheep farming industry, upland culture and the Welsh language, whilst climate change has forced a review of our relations with nature.

Alice-Briggs created the Sheep exhibition at Ceredigion Museum, and the Future Landscapes symposium (May 2019) which facilitated difficult conversations about these topics. This led to the formation of Cynefin, (an alliance of land practitioners) and People’s Practice (using a tool which can radically galvanise knowledge sharing and change). The resulting report (Briggs 2020) fed into the Welsh Government Land Management review.

Llun/Photo @quick.zoe

Amdan y grŵp

Rydym yn grŵp o fenywod, yn byw ar hyd yr afon. Rydym yn gweithio yn y byd academaidd, addysg gelfyddydol, ymrwymiad cymunedol, a hydwythedd bwyd, ac rydym hefyd yn rhieni, nofwyr, garddwyr, cerddwyr, nyddwyr, syrffwyr, a llawer o bethau eraill. Mae'r prosiect hwn yn tarddu o cyd-barch am waith ein gilydd ac ein hangerdd a thosturi tuag at wynebu'r dasg o ymateb i ddatgysylltiad ac effeithio ar bolisi.

Rydym yn ddiolchgar ein bod wedi cael ein hariannu gan gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru, sy'n cefnogi cydweithrediadau arloesol, uchelgeisiol sy'n tynnu mewn ac yn cysylltu cymunedau.


Rydym am:

● Archwilio ac ymateb yn greadigol tuag at gysylltiadau rhwng cymunedau ar hyd yr afon Rheidol

● Helpu i greu Cymru wledig hydwyth trwy arloesi ac arddangos arferion adfywiol ac ailddefnyddio / ailgylchu, ac archwilio atebion ar y cyd i golled bioamrywiaeth a'r argyfwng hinsawdd

● Meithrin perthnasoedd ac arferion rhwng cenedlaethau

● Dysgu dull o ddeialog artistig fel ffordd i adeiladu ymddiriedaeth gymunedol a dysgu ar y cyd

● Hyrwyddo Cymru iachach, gan ddyfnhau cysylltiadau ein cymuned â thir, bwyd a'i gilydd

● Annog economi ddychmygus, gadarnhaol a chreadigol yng Nghanolbarth Cymru

● Dathlu crefft menywod a llafur ymylol trwy ail-ystyried arferion traddodiadol

● Creu llais grym ar y cyd i sgwrsio â sefydliadau cenedlaethol / byd-eang


Food is life

This project looks to invite a deepening and sharing of connections to landscape and local heritage through events, workshops and performances that re-engage old customs of gleaning, and summon participatory practices of food growing, preparation and storytelling.


Bwyd yw bywyd

Mae'r prosiect hwn yn ceisio dyfnhau a rhannu cysylltiadau â thirwedd a threftadaeth leol trwy ddigwyddiadau, gweithdai a pherfformiadau sy'n ail-ymgysylltu hen arferion casglu, ac arferion cyfranogol o dyfu a pharatoi bwyd ac adrodd straeon.

Llun/photo: @SeasideDonkey

About the group

We are an all-female collective, living near the various stages of the river. We work in academia, arts education, community engagement and food resilience, and are also parents, swimmers, gardeners, walkers, spinners, surfers, and many other things. Through a mutual respect for each other’s work and passion and compassion for addressing disconnect and affecting policy, we have brought this project into being.

We are grateful to have been funded by the Arts Council of Wales’s Connect and Flourish fund, which supports innovative, ambitious collaborations that engage and connect communities.


We want to:

● Creatively connect communities and explore links along the Rheidol river

● Help create a resilient rural Wales by pioneering and showcasing regenerative and resuse/recycle practices, and collectively explore solutions to biodiversity loss and the climate crisis

● Nurture intergenerational relationships and practices

● Teach a method of artistic dialogue as a way to build community trust and shared learning

● Promote a healthier Wales, deepening our community’s connections to land, food and each other

● Encourage an imaginative, positive, creative Mid Wales economy

● Celebrate women’s craft and marginalised labour by reanimating traditional practices

● Empower a collective voice to converse with national/global institutions and organisations


Llun/photo: @AliceBriggs